Datganiad / Statement

Mae’r gwrthdaro trefol a diwylliannol sydd o gylch Caerdydd ymhell o ardal fy magu ar Ynys Môn. Ac er i mi dyfu fyny gyda’r freuddwyd o fyw mewn ‘dinas’, yn aml byddaf yn cwestiynu fy mherthynas â’r lle yr ydwyf bellach yn ei alw’n adref.

Gall newidiadau pensaernïol i wyneb Caerdydd - wedi’u penderfynu’n aml iawn trwy flaenoriaethu economi a dros hunaniaeth, diwylliant, hanes a phobl y ddinas - ennyn teimladau o ddieithrwch.

Trwy ddogfennu, dadelfennu ac ail-osod esthetig tirluniau dinesig dydd-i-ddydd y brifddinas i’w graidd o fewn geometreg, gwead a lliw, mae fy ngwaith yn cwestiynu'r delfrydau o hunaniaeth ac unigrwydd sydd yn diffinio dinas yn draddodiadol – a’r teimladau o berthyn ag estroni sy’n diffinio perthynas dinasyddion gyda’u hardal.

_______

The urban and cultural conflict surrounding Cardiff is a long way from where I grew up on Anglesey. And although I grew up with the dream of living in a 'city', I often question my relationship with the place I now call home.

Architectural changes to the face of Cardiff - very often decided by prioritising economy and short-term growth over the city's identity, culture, history and people - can evoke feelings of alienation.

By documenting, deconstructing and reconstructing the aesthetics of the capital's day-to-day urban landscapes to their core within geometry, texture and colour, my work questions the ideals of identity and isolation that traditionally define a city - and the feelings of belonging and alienation that define the relationship of citizens with their area.

Rhys Aneurin